Header Image for Llansantffraed CC

Aelodau'r Cyngor Cymuned

Cadeirydd 2022-23:  Y Cynghorydd Sheila Davies

Is-gadeirydd 2022-23:  Y Cynghorydd Andrew Phillips

Cynghorwyr
Cofrestr o Ddatgelu Buddiannau gan Aelodau mewn Cyfarfodydd
Enw Manylion Cyswllt
Sheila Davies  Nol Adre, Stryd y Capel, Llanon, Ceredigion.
Keith Henson  Maescledan, Nebo, Llanon, Ceredigion 
Hywel Llŷr Jenkins
 Enllan, 56 Stad Craig Ddu, Llan-non, Ceredigion
Lodwick Lloyd
 Adsolwen, Llanon, Ceredigion.
Dennis Morgan  Fronfoel Uchaf, Llanon.
Andrew Phillips Southcote, Stryd yr Ysgol, Llanon, Ceredigion
Gwenno Piette
Emporium, Stryd y Bont, Llanon, Ceredigion. 
Aled Roberts
Ardwyn, Llanon, Ceredigion. 





Cyfarfodydd
Cynhelir y cyfarfod blynyddol ar y Dydd Mawrth cyntaf ym Mis Mai, heblaw yn ystod blwyddyn etholiadol, pan y cynhelir y cyfarfod ar y dydd Mawrth sy'n dilyn y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad.

Cynhelir y cyfarfodd misol ar y Dydd Mawrth cyntaf ymhob mis, gan ddechrau am 7:30 pm.   Cynhelir cyfarfod 1af Mehefin 2021 yn Festri Capel Siloh, Llanon.

Gosodir yr agenda a'r cofnodion o'r cyfarfod blaenorol, heb eu cadarnhau, ar hysbysfyrddau'r pentref tri diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

Dylid anfon unrhyw faterion at sylw'r Cyngor Cymuned at y Clerc. Mae cyfarfodydd y Cyngor yn agored i'r cyhoedd. Ond ar brydiau, gall y cyngor gau allan y cyhoedd o'r cyfarfodydd, drwy wneud penderfyniad arbennig sy'n egluro pam fod trafodaeth agored ar faterion arbennig, yn rhagfarnllyd yng ngolwg y cyhoedd.

 

Arwyddlun Milflwydd


Cynlluniwyd arwyddlun Milflwydd Llansantffraed gan Dewi Rowlands Wave Villa, ac arno gwelir Eglwys Llansantffraed (uchaf) ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi (chwith).

Honnir i Dewi Sant gael ei fagu yn Llanon, a chysegrwyd yr eglwys fore yma i Non, mam Dewi. Felly'r enw Llanon. Perchenogwyd Morfa Esgob yn ddiweddarach gan Esgobion Tyddewi, ac yma heddiw, y gwelir olion unigryw o ddulliau agored o ffermio, yn deillio yn ol i'r Oesoedd Canol.

Adeiladwyd y Gwladys (y llong ar y dde) gan Henry Harries yn 1863 yn Llansantffraed, ac fe dystia i draddodiad morwrol y gymuned, ynghyd a'r diwydiant adeiladu llongau, a fu mor llwyddiannus yma, yn ystod hanner cyntaf y 19fed ganrif.                             

 Cliciwch yma i weld map o ardal y gymuned.

Cliciwch yma i weld y Ffurflen Flynyddol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2007.

Dengys y canlynol rhai ystadegau o gyfrifiad 1991 gan Ddosbarth Polisi ac Ymchwil Adran Cynllunio Cyngor Sir Dyfed.

Ystadegau  

Nifer Aelwydydd
Rhieni Sengl   
Plant yr Uchod
Pensiynwyr yn byw ar ben eu hunain  
Tai:
            a Pherchennog Preswyl
            ar rent-Preifat
            ar rent Trwy Gyflogaeth/Gyda Busnes
            ar rent-Cymdeithas Tai
            ar rent-Cyngor
Poblogaeth Preswyl
Oedran 0-15
Oedran Pensiwn
Oedran 18-Pensiwn
Siaradwyr Cymraeg
Yn gweithio
Anweithrodol
Di-Waith

Salwch Tymor Hir Sy'n Caethiwo
436
8
9
86
508
344
29
10
3
46
1082
207
289
563
682
440
433
25
179

Cliciwch er mwyn cysylltu ag ystadegau cyfrifiad 2001 yn Dosbarth Etholiadol Llansantffraid sydd hefyd yn cynnwys Cymuned Dyffryn Arth.